Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) 2024

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                     Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt hwn. Nodwyd y gwall yn flaenorol o fewn Llywodraeth Cymru ac mae wedi cael ei gywiro cyn i’r Rheoliadau ddod i rym ar 1 Ionawr 2025 gan SL(6)564 Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) (Diwygio) 2024. Gwnaed a gosodwyd y rhain ar 10 Rhagfyr 2024, a byddant yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2024. Maent yn diwygio rheoliad 1(3) drwy fewnosod paragraff (3) newydd er mwyn sicrhau y bydd rheoliadau 1 a 3(5) yn dod i rym ar 1 Ionawr 2025. Drwy’r cywiriad hwn, bydd rheoliad 1(4) wedyn yn cael ei gymhwyso’n gywir hefyd, gan alluogi’r holl reoliadau eraill i ddod i rym ar 1 Ebrill 2025.

 

Pwyntiau Craffu Technegol 2, 3, 4, 6, 7, 10, 11, 13 a 14:Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwyntiau adrodd hyn a bydd yn gwneud Rheoliadau diwygio pellach cyn dyddiad gweithredol y darpariaethau, sef 1 Ebrill 2025, i gywiro’r materion hyn.

 

Pwynt Craffu Technegol 5:                     Mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod “y rhestr” yn gyfeiriad at “y rhestr gyfunol” ac mae o’r farn y byddai hynny’n ddigon clir ac amlwg i’r darllenydd.

 

Pwynt Craffu Technegol 8:                     Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt hwn a bydd yn ystyried mewnosod diffiniad wrth wneud unrhyw ddiwygiadau i Reoliadau 2020 yn y dyfodol.

 

Pwynt Craffu Technegol 9:                     Mae’r cyfeiriad at oruchwyliaeth uniongyrchol yn y telerau gwasanaeth yn awgrymu bod rhaid i fferyllwyr fod gerllaw pan gyflawnir yr holl weithgareddau hyn mewn fferyllfa, a rhaid iddynt allu gweld y gweithgareddau’n cael eu cyflawni. Pan ddaw’r diwygiadau eraill i’r telerau gwasanaeth, a wneir gan y Rheoliadau hyn, i rym ar 1 Ebrill 2025, ni fydd angen cynnwys “yn uniongyrchol” nac “uniongyrchol” mwyach, a bydd Rheoliadau diwygio yn cael eu gwneud cyn 1 Ebrill 2025 i hepgor y cyfeiriadau hyn.

 

Pwynt Craffu Technegol 12:                   Mae’r defnydd o “dylai” yn gywir ac mae’n gyson â’r derminoleg a ddefnyddir yn Rheoliadau 2020.

 

Pwynt Craffu Technegol 15:                   Mae’r ddarpariaeth hon wedi ei chodi o ddarpariaethau tebyg yn y Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a’r Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol, ac ni ddiffinnir y naill derm na’r llall yn y Rheoliadau hynny. Mae’r termau “cyffuriau” a “teclynnau” yn hunanesboniadol ac fe’u deellir yn dda gan y rhai a fyddai’n defnyddio’r ddeddfwriaeth. Mae i’r termau eu hystyr cyffredinol ac maent yn ehangach na “meddyginiaethau rhestredig offthalmig” neu “teclynnau rhestredig offthalmig”, nad ydynt ond yn berthnasol yng nghyd-destun archebion a lofnodwyd (4A). Gall rhai optometryddion ragnodi (yn yr un modd ag y mae ymarferwyr cyffredinol a deintyddion yn ei wneud) ac ni ddylent ragnodi gormod o gyffuriau na theclynnau.